Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

09 Chwefror 2026

SL(6)734 Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026

Gweithdrefn: Gweithdrefn annilysu'r Senedd

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau canlynol:

·         Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”);

·         Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017;

·         Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018;

·         Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018; a

·         Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr presennol i addasu symiau cymorth cynhaliaeth myfyrwyr a lwfansau eraill a chyfraniad ôl-raddedig at gymorth costau yn unol â mesur o'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 2025 i gynyddu’r capiau ffioedd dysgu israddedig llawn amser a chymhwyso'r capiau hyn i'r holl bersonau cymhwysol ar gyrsiau cymhwysol mewn sefydliadau rheoleiddiedig yng Nghymru ar gyfer blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2026. Nid yw codi'r cap ffioedd dysgu yn cynyddu'r ffi ddysgu a godir, sy'n fater i'r sefydliad sy'n darparu'r cwrs.

 

Rhiant-Ddeddf: Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998

Fe’u gwnaed ar: 20 Ionawr 2026

Fe’u gosodwyd ar: 22 Ionawr 2026

Yn dod i rym ar: 12 Chwefror 2026

 

 


Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

09 Chwefror 2026

SL(6)735 Gorchymyn Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 1) 2026

Gweithdrefn: Dim Gweithdrefn

 

Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 (“y Ddeddf”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn gweddill y darpariaethau yn adran 18 o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2026. Mae adran 18(2)(c) a (5) eisoes mewn grym at y dibenion a bennir yn adran 23(6) o’r Ddeddf.

 

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024

Fe’u gwnaed ar: 22 Ionawr 2026

Fe’u gosodwyd ar:

Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2026

 

 

 

 

                                                                                                 


Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

09 Chwefror 2026

SL(6)738 Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) a Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026

Gweithdrefn: Gweithdrefn gymeradwyo'r Senedd

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio’r setiau o Reoliadau a ganlyn:

(i)            Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019; a

(ii)           Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005.

Mae'r newidiadau sy'n cael eu gwneud fel a ganlyn:

·         estyn yr esemptiad presennol rhag cofrestru ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu sy'n darparu gwasanaethau cymorth o dan gontract i gynnwys hefyd wasanaethau a ddarperir gan bartneriaethau a chyrff corfforedig o dan gontract;

·         creu esemptiad ychwanegol rhag cofrestru ar gyfer darparu cwnsela mewn perthynas â mabwysiadu i oedoliolion;

·         ddisodli cyfeiriadau at “rhiant naturiol” gyda “rhiant geni” (heb unrhyw newid yn ystyr y term);

·         estyn cymhwystra ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu penodol i gynnwys cyn-warcheidwaid plentyn mabwysiadol; a

·         phennu bod yn rhaid i ofal seibiant sy'n cynnwys llety gael ei ddarparu o dan ddarpariaethau statudol penodol iddo fod yn gymwys fel gwasanaeth cymorth mabwysiadu.

 

Rhiant-Ddeddf: Deddf Mabwysiadu a Phlant​ 2002

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar: 27 Ionawr 2026

Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2026